Date: Wed 04 Nov 2015

Tom Bradshaw - From WPL to National Squad

Mae Cyn-chwaraewr Aberystwyth wedi ei alw i garfan Chris Coleman

Former Aberystywth Town player Tom Bradshaw has been called into the senior Wales football squad for the upcoming friendly match against the Netherlands at Cardiff City Stadium on Friday November the 13th.

Bradshaw made his senior debut for the Seasiders as a 16 year old in 2009 and also played in Welsh Cup Final defeat against Bangor that season. The striker was signed by his home town club Shrewsbury in 2009 and Aberystwyth were awarded £30,000 training compensation following FIFA intervention. During his time with Shrewsbury Town he scored 17 goals in 98 appearances.

Tom Bradshaw qualifies for Wales on education grounds as he was brought up and educated in Tywyn, Gwynedd. He scored on his Wales U21 debut away in Montenegro and won a total of eight caps at U21 level. The 23 year old was transferred to Walsall in 2014 and has registered 23 goals in 45 appearances for the Saddlers.Walsall currently top League One and Bradshaw has netted six league goals in his 16 appearances.



Mae cyn-chwaraewr Aberystwyth Tom Bradshaw wedi ei alw i garfan ryngwladol lawn Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd nos Wener y 13eg o Dachwedd.

Ymddangosodd yn fachgen 16 oed dros Aber yn Uwch Gynghrair Cymru yn 2009 a chwaraeodd yn Rownd Derfynol Cwpan Cymru y tymor hwnnw hefyd pan enillodd Bangor y gystadleuaeth o 2-0 ar Barc y Scarlets. Arwyddodd dros glwb Yr Amwythig yr haf hwnnw a dyfarnodd FIFA £30,000 i Aberystwyth am ei feithrin fel chwaraewr. Yn ystod ei gyfnod gyda’r Amwythig sgoriodd 17 o goliau mewn 98 ymddangosiad.

Er iddo gael ei eni yn Yr Amwythig, cafodd ei fagu – a derbyn ei addysg yn Nhywyn, Gwynedd a hynny sicrhaodd ei fod yn gymwys i gynrychioli Cymru. Sgoriodd yn ei gêm gyntaf yn y tîm dan 21ain ym Montenegro ac enillodd gyfanswm o wyth o gapiau dan 21ain. Yn 2014 arwyddodd gytundeb gyda Walsall ac mae’r ymosodwr 23ain oed wedi sgorio cyfanswm o 23 o goliau iddynt mewn 45 ymddangosiad. Mae Walsall ar hyn o brig ar frig Adran Un yn Lloegr ac mae Bradshaw wedi sgorio chwech o goliau mewn un ymddangosiad ar bymtheg yn y cynghrair.

Don't worry, we hate spam as much as you do. We will only send you the latest updates and anything we think you will enjoy reading about.

Hit enter to send your tweet

Go to Youtube Channel
WPL Preview: Bangor City v The New Saints 01/12/12